Adolygu Llwybrau GNG Cynffig a Chlwb Golff Y Pîl a Chynffig

Mae tîm Hawliau Tramwy'r Cyngor yn gwahodd trigolion ac ymwelwyr i gymryd rhan mewn adolygiad o'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus o fewn ardal sy'n cwmpasu Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a Chlwb Golff y Pîl a Chynffig. Mae'r ardal wirioneddol lle mae llwybrau'n cael eu hadolygu wedi'i hamlinellu ar y cynlluniau a ddarparwyd.

Rydym yn awyddus i ddeall pam mae pobl yn cael mynediad i'r ardal; pa lwybrau y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd; a ydynt yn cerdded, yn marchogaeth ceffylau neu'n beicio yn yr ardal; ac, a yw'r llwybrau newydd arfaethedig yn addas ac a fyddent yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

I gymryd rhan yn yr adolygiad, a fyddech cystal â llenwi'r holiadur ynghlwm. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ffonio'r Tîm Hawliau Tramwy. Diolch am eich cymorth.

Ffôn - (01656) 642537

E-bostrightsofway@bridgend.gov.uk

Cyfeiriad – Tîm Hawliau Tramwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Depo Waterton, Waterton Lane, CF31 3YP

Cyhoeddi: 14 Mar 2025, 10:05 AC