Mae’r holiadur yn ddi-enw ac nid yw’n gofyn am unrhyw fanylion personol.
Byddwn y defnyddio eich ymatebion i’n cynorthwyo i werthuso’r hyn yr ydym wedi ei wneud yn dda, beth sydd angen eu gwella a sut i siapio ein gwasanaeth yn y dyfodol.
Bydd gwybodaeth yn cael ei chrynhoi a bydd dadansoddiad o ymatebion yn cael ei gyhoeddi o fewn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Bydd y cyngor yn cymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau cyfrinachedd ac i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Bydd eich manylion yn cael eu cadw’n unol â Pholisi Cadw Data’r Cyngor.
Mae gennych nifer o hawliau dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Cewch hefyd dynnu eich caniatâd yn ôl a gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn ar gael ar ein gwefan neu gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data.
Os ydych yn anfodlon gyda'r modd yr ydym yn prosesu eich data personol, cewch gyflwyno cwyn i'r Swyddog Diogelu Data a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.