Neidio i'r cynnwys

Amser i Siarad Cyllideb

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr


Y sefyllfa bresennol

Ar draws y DU, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau ariannol enfawr o ganlyniad i doriadau mewn cyllid a digwyddiadau’n amrywio o bandemig Covid-19 i’r Argyfwng Costau Byw presennol.

 

Mae pob gwasanaeth cyngor yn awr yn costio mwy i’w ddarparu i breswylwyr - nid dim ond prosiectau mawr megis adeiladu ysgolion newydd, ond pethau fel biliau ynni ar gyfer canolfannau dydd a chartrefi gofal, cynnal y rhwydwaith priffyrdd, neu helpu pobl sy’n ddigartref.

 

Oherwydd y cynnydd yn y galw, rydym hefyd wedi gweld gorwario ar gyllidebau mewn meysydd pwysig megis gwasanaethau cymdeithasol a chludiant o’r cartref i’r ysgol.


Ariannu’r Cyngor

Mae’r arian rydym ni’n ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau yn dod yn bennaf o setliad cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru yn ogystal â threth gyngor ac incwm a gynhyrchir drwy ffïoedd a thaliadau. 

 

Ar gyfer 2025-2-26, bydd y cyngor yn debygol o dderbyn cynnydd o 4 y cant yn setliad y gyllideb ar gyfer 2025-26. Yn anffodus, ni fydd hyn yn ddigon i ysgwyddo costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau. 

 

Er mwyn gosod cyllideb cwbl hafal sy’n ofynnol gan y gyfraith, credwn y bydd angen dod o hyd i arbedion o £9.1 miliwn yn 2025-26.

 

Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy wneud rhai penderfyniadau anodd iawn am y gwasanaethau cyngor rydym yn eu darparu a’u blaenoriaethu ar hyn o bryd. Byddwn hefyd angen ystyried sut y gallwn ni gwrdd â’r heriau y gallem eu hwynebu yn y dyfodol.

 

Egwyddorion ein cyllideb

Wrth ddatblygu’r gyllideb ar gyfer 2025-26, byddwn yn:

 

  • Ceisio diogelu ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
  • Annog preswylwyr a chymunedau i gefnogi eu hunain, a darparu cyngor er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.
  • Ceisio cyfyngu ar dwf gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
  • Ei gwneud yn ofynnol i bob cyfarwyddiaeth gyfrannu at arbedion cyffredinol sy’n ofynnol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
  • Cynnal gwasanaeth cefn swyddfa effeithlon er mwyn cefnogi darparu gwasanaeth a thrawsnewid.
  • Bod yn ystyriol o’r cyni ariannol sy’n cael ei ragweld yn y sector cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, a chynllunio i sicrhau hyfywedd ariannol y cyngor.
  • Ceisio adfer cost gwasanaethau drwy ffïoedd a thaliadau lle mae’n bosib gwneud hynny.

 

Yn ogystal, er mwyn ein helpu ni i barhau i flaenoriaethu’r bobl fwyaf bregus, rydym am i’r gyllideb hon amddiffyn ein buddsoddiadau presennol mewn addysg, gwasanaethau ymyrryd cynnar, a gwasanaethau cymdeithasol a lles.

 

Dweud eich dweud

Bwriedir i’r ymgynghoriad hwn sicrhau y gallwch gael dweud eich dweud yn y broses o osod cyllideb. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau proses y llynedd, pryd y dywedoch wrthym y dylem fod yn ceisio cyflwyno taliadau neu eu cynyddu os oeddent eisoes yn bodoli, gan leihau costau staffio ac adolygu pa lefelau o wasanaeth oedd modd eu darparu.

 

Er mwyn gwneud yn fawr o arbedion effeithlonrwydd, fe ddywedoch wrthym ni hefyd i adolygu’r defnydd a wneir o’n hadeiladau a’n hasedau, ac i ystyried y trefniadau gwasanaeth sydd gennym mewn lle gyda sefydliadau partneriaethol. 

 

Rydym wedi gweithredu ac wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’r cyfan o’r uchod, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni edrych ymlaen tuag at 2025-26.

 

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi’n ofalus a’u hystyried, a byddwn yn ceisio adlewyrchu barn cymaint o bobl â phosib yn y cynigion cyllideb terfynol - diolch i chi am gymryd rhan.

0% Ateb

Amser i siarad am yr ymgyrch ymwybyddiaeth o’r gyllideb:

1.  

Wnaethoch chi weld ein inffograffigau oedd yn berthnasol i'r gyllideb gafodd eu rhannu’n ddiweddar ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a’n e-byst wythnosol i breswylwyr?


Dyma rai enghreifftiau:



2.  

Os do, yna ble wnaethoch chi eu gweld?