Neidio i'r cynnwys

Arolwg Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu gwybodaeth am sut mae pobl yn y sir yn bwyta, siopa, coginio a gwastraffu bwyd. 

Rydym yn anelu i gael amrywiaeth eang o ymatebion er mwyn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Bydd y gwaith hwn yn llywio dyfodol bwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei gynnal gan Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r bartneriaeth yn aelod o Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy'n gweithio tuag at drawsnewid Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Rydym yn gweithio ar bob lefel, o lawr gwlad i gyd-gynyrchu strategaeth ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.   Mae gan yr arolwg canlynol 5 adran ac amcangyfrifir y bydd yn cymryd oddeutu 6 munud i'w gwblhau. Diolch am gymryd yr amser i’n helpu ni i lywio dyfodol bwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

0% Ateb

Bwyta'n Iach

Pan rydym yn siarad am ddiet iach, yr hyn a olygwn yw bwyta diet cytbwys sy'n cwrdd ag anghenion maeth ac egni ac sy'n cynnwys cyfrannau priodol o ffrwythau a llysiau, carbohydradau, cynnyrch llaeth (neu rai amgen), a phrotein, fel yr argymhellir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Am ragor o wybodaeth gweler y Canllaw Bwyta'n Iach. 

1.  

Pa mor hawdd neu anodd ydych chi'n ei chael i fwyta'n iach?

2.  

. A oes unrhyw un o'r pethau canlynol yn ei gwneud hi'n anodd i chi fwyta'n iach gartref?  Dewiswch bob un sy'n berthnasol.

3.  

A oes unrhyw un o'r canlynol yn ei gwneud hi'n anodd i chi fwyta'n iach oddi allan i'r cartref, e.e. pan fyddwch yn y gwaith neu yn ystod amser hamdden pan rydych yn siopa/cymdeithasu a.y.y.b? Dewiswch bob un sy'n berthnasol

4.  

Sut mae pethau arnoch chi o ran bwyta'n iach? Meddyliwch am y 3 mis diwethaf yn benodol.

1= ddim yn bwyta'n iach o gwbl i 10= bwyta diet eithriadol o iach.

5.  

Sut hoffech chi wneud eich diet yn iachach? Dewiswch bob un sy'n berthnasol.