Arolwg Ymgysylltu â'r Gymuned - Cylchfan Heol Ewenni i Frynteg

Nod y cynllun arfaethedig yw cysylltu Ysgol Gyfun Brynteg â'r Rhwydwaith Teithio Llesol presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd Cam 1 (i'w adeiladu o fis Ionawr 2026) yn ymestyn y llwybr presennol o'r bont reilffordd ar Lôn Hernston ar hyd yr A48 hyd Gylchfan Ewenni. Mae Cam 2 (pwrpas yr arolwg a'r gwaith ymgysylltu hwn) yn cynnig parhau â'r llwybr teithio llesol o Gylchfan Ewenni i Ysgol Gyfun Brynteg, gan gynnwys croesfan twcan wedi’i reoli fel y gall disgyblion groesi'r ffordd brysur yn ddiogel. Mae Cam 2 hefyd yn ystyried rhai gwelliannau y gellid eu gwneud i Lôn Hernston a Priory Road i helpu disgyblion sy'n cael eu gollwng yn yr ardaloedd hynny i deithio'n ddiogel i'r ysgol. Gweler y map i weld y cynllun cyffredinol sy'n cysylltu Ysgol Gyfun Brynteg â'r rhwydwaith presennol sy'n arwain at Barc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cyfagos. Hoffem gael barn trigolion am Gam 2 y cynllun, lle mae ochr ddwyreiniol a gorllewinol Heol Ewenni yn cael eu hystyried.

Cyhoeddi: 06 Hyd 2025, 03:22 PM