Ystyried y Teulu – Gwella Canlyniadau i Blant a Theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Consultation has concluded

Mae cynllun drafft tair blynedd, sef ‘Ystyried y Teulu, wedi cael ei ddatblygu gan ein cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant er mwyn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cynllun yn nodi cyfres glir o amcanion a chamau gweithredu strategol a fydd yn esgor ar gymorth cynaliadwy ac effeithiol i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn y fwrdeistref sirol yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae’r cynllun yn pennu cyfeiriad ein gwaith dros y tair blynedd nesaf er mwyn trawsnewid ein gwasanaethau’n unol ag arferion gorau a pholisi cenedlaethol. Mae saith o themâu strategol allweddol yn sail i’r cynllun, sef:

  1. Clywed llais plant a theuluoedd a gweithredu ar sail y llais hwnnw
  2. Sicrhau gweithlu sefydlog, brwd, parhaol, a gefnogir yn briodol
  3. Gwella ymarfer
  4. Cynyddu effaith ein gwasanaethau a’n hymyriadau
  5. Ymateb yn fwy effeithiol i deuluoedd ag anghenion cymhleth
  6. Gweithio’n ddi-dor â phartneriaid
  7. Gwybodaeth a systemau gwybodaeth gwell

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Mae cynllun 3 blynedd drafft ein Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, sef “Ystyried y Teulu”, yn cynnwys 7 thema y bwriadwn ganolbwyntio ein hymdrechion arnynt.

    Consultation has concluded