Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2023-2026

Consultation has concluded

Y Cynllun hwn

Mae gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd (y ‘gyfarwyddiaeth’) ran allweddol yn y broses o ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau plant, pobl ifanc, oedolion, a theuluoedd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Er bod y gyfarwyddiaeth yn falch o’r gwaith y mae’n ei wneud, rydym yn cydnabod bod nifer o heriau’n ein hwynebu i sicrhau bod ein gwasanaethau addysg a chymorth i deuluoedd yn gallu addasu i ddiwallu anghenion ein preswylwyr.

Mae’r cynllun strategol hwn yn esbonio’n huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwasanaethau addysg a chymorth i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn dod â’n huchelgeisiau a’n hamcanion gweithredol ynghyd i ymdrin ag effaith tlodi ac i helpu pobl i fyw bywydau mwy llewyrchus ac iach.

Ein nod yw sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bawb.

Eich barn chi

Er mwyn i ni gael gwybod mwy am eich barn chi am Gynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2023-2026, a fyddech chi cystal â llenwi’r arolwg hwn.