Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Ffurflen Gofrestru ar gyfer y Panel Dinasyddion

0% Ateb

Cefndir

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Caiff yr holl wybodaeth a dderbynnir ei storio gan ddefnyddio gweinyddion diogel ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (1998). Wrth gasglu data, mae gennym bolisi ar waith i gymryd yr holl gamau priodol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu'n gyfreithiol. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n allanol.


Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i safbwyntiau preswylwyr. Mae gan breswylwyr sy’n ymuno â’r Panel Dinasyddion gyfle i gyfrannu at wneud penderfyniadau. Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys pobl 16 oed â hŷn sy’n byw ledled y fwrdeistref sirol.

Hoffem i’r panel gynrychioli barn pobl o bob cefndir, felly mae’r arolwg cyntaf hwn yn gofyn cwestiynau amdanoch chi. Mae’r atebion i’r holl arolygon yn cael eu trin yn ddienw ac yn parhau’n gyfrinachol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn neu os hoffech yr arolwg mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â’r tîm ymgynghori ar 01656 643664.