Teithio gan Ddysgwyr

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd barn a safbwyntiau ynglŷn â newidiadau posibl i drefniadau teithio disgyblion a myfyrwyr coleg a chanfod sut y bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Polisi Cludiant rhwng y Cartref ar Ysgol/Coleg yn effeithio arnoch chi a’ch teulu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu pwysau digyffelyb ar ei gyllideb. Golyga hyn y bydd angen lleihau’r gyllideb yn fawr dros y pedair blynedd nesaf. Ymhellach, rhagwelir y bydd y cyngor wedi gorwario swm sy’n cyfateb i £1.157M ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn 2023-24. O gofio bod y polisi hwn ymhlith y polisïau mwyaf hael yng Nghymru o safbwynt darparu cludiant i ddysgwyr, mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn cynnig arbed £792k ar gyfer 2025-26.

Diweddaru: 25 Ebr 2024, 09:09 PM