Mae cwcis yn ein helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn roi'r profiad gorau i chi pan fyddwch ar ein safle. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Cwcis cyfryngau cymdeithasol:
Rydym yn defnyddio cwcis cyfryngau cymdeithasol o Facebook, Twitter a Google i redeg teclynnau, ymgorffori fideos, swyddi, sylwadau a nôl gwybodaeth proffil.
Mae ymgynghoriadau ynghylch cyllideb 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr', Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cynnal yn flynyddol ers 2013. Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses pennu cyllidebau, mae’r cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd i ganfod eu barn ar beth ddylai fod yn feysydd o flaenoriaeth yn eu barn nhw wrth ddyranu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ac i archwilio’r farn honno yn erbyn cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Mae trefnu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 yn fwy ansicr nag erioed. Yn ogystal ag effaith barhaus pandemig covid-19, a'r gwrthdaro yn Wcráin a'r effaith ychwanegol mae hyn yn ei gael ar ynni a phrisiau eraill yn fyd-eang, a bydd yr argyfwng costau byw presennol yn cael effaith sylweddol ar gostau cyffredinol y cyngor.
Bydd y cyngor y wynebu her ariannol na welwyd ei thebyg dros y blynyddoedd nesaf, sy’n amcangyfrif bwlch hyd at £20m yn ystod y cyfnod ariannol 2023-2024.
Mae'r Cyngor yn wynebu mwy o bwysau o ran costau wrth fynd ymlaen nas gwelwyd yn y blynyddoedd diweddar, a bydd yn debygol yn mynd yn fwy heriol parhau i ddarparu’r un lefel o wasanaethau wrth ddarparu’r un lefel o wasanaethau wrth geisio parhau i gynorthwyo aelodau hŷn a mwyaf bregus ein cymdeithas.
Mae’r Cyngor yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau busnesau hanfodol. Roedd y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 yn llawer gwella na'r disgwyl, ond mae'r rhagolygon ar gyfer 2023/24 a thu hwnt yn llai ffafriol, yn enwedig wrth i amgylchiadau economaidd waethygu'n ddifrifol dros y misoedd diwethaf.
Teimlir y pwysau Costau Byw mae’r holl breswylwyr yn eu profi gan y Cyngor hefyd. I gefnogi gwasanaethau wrth symud ymlaen bydd rhaid i’r Cyngor ystyried cynyddu’r Dreth Gyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf a bydd eich mewnbwn i’r arolwg hwn yn cynorthwyo i ddarganfod gwasanaethau mwyaf gwerthfawr y Cyngor a’r rhai y dylem barhau i’w cyllido.
Rydym yn ceisio gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn 'Addas ar gyfer y Dyfodol' ac i’n cynorthwyo i wneud hyn, rydym angen deall eich barn a’ch blaenoriaethau.
Mae'r arolwg yn ymdrin â'r meysydd canlynol;
Blaenoriaethu gwasanaethau'r cyngor
Lefelau'r Dreth Gyngor
Sut mae’r cyngor wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf
Beth ddylai ein blaenoriaethau’r dyfodol fod
Digitaleiddio gwasanaethau'r cyngor