Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 2024-25

Consultation has concluded

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod drwy gyfnod eithriadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag effeithiau parhaol pandemig Covid-19, ac yna cynnwrf economaidd sylweddol, argyfwng costau byw, ac argyfyngau rhyngwladol a chenedlaethol.

Mae’r argyfwng costau byw wedi arwain at hanfodion bob dydd fel biliau bwyd ac ynni yn cynyddu’n gyflymach nag incwm cyfartalog aelwydydd – mae hyn wedi creu cyfnod heriol i bawb. Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn wynebu heriau tebyg, mae popeth rydyn ni’n ei wneud a phob gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig nawr yn costio mwy i ni ei ddarparu i’n trigolion.

Fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, a’r DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu heriau ariannol sylweddol – er enghraifft, mae biliau ynni mewn ysgolion, canolfannau gofal dydd ac adeiladau cyhoeddus eraill wedi codi. Mwy o blant ac oedolion agored i niwed yn ein cymunedau sydd angen gofal a chymorth a mwy o bobl yn dod yn ddigartref ac angen cymorth.

Mae cost gwaith adeiladu, megis ysgolion newydd, atgyweirio ysgolion presennol a rhoi wyneb newydd ar briffyrdd wedi cynyddu’n sylweddol, ond nid yw’r cyllid i ddarparu’r holl wasanaethau hyn wedi cynyddu’n unol â’r costau hyn.

Oherwydd y pwysau ariannol a roddwyd ar lawer o’n gwasanaethau y llynedd, fel y gwasanaeth gofal cymdeithasol a Chludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol, roedd gorwariant yng nghyllidebau ein gwasanaethau ac mae’r pwysau hyn wedi cynyddu yn y flwyddyn ariannol hon.

Ar ddiwedd hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, mae’r cyngor wedi rhagamcanu gorwariant diwedd blwyddyn o tua £11m, sef tri y cant o’n cyllideb net gyffredinol o £342m.

Telir am Wasanaethau’r Cyngor drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, y Dreth Gyngor a chodi incwm drwy ffioedd a thaliadau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar fin cael cynnydd o 3 y cant yn unig mewn setliad cyllideb ar gyfer 2024-25 gan Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain yr awdurdod i rybuddio ei bod bellach yn amhosibl osgoi newidiadau mawr i rai gwasanaethau’r cyngor.

Gan fod y setliad yn is na chyfradd chwyddiant gyfredol y DU o 3.9 y cant ac yn cynrychioli cynnydd o £7.4m mewn cyllid yn erbyn pwysau cyllideb hysbys o £28m, bydd angen i’r cyngor gymryd camau brys os yw am gyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cyllideb gwbl gytbwys drwy ddod o hyd i £16m o arbedion yn y flwyddyn i ddod.

Er mwyn cyflawni’r gostyngiadau gofynnol yn y gyllideb, mae pob gwasanaeth wedi gorfod dod o hyd i arbedion o rhwng 5% a 10% a dangosir y rhain yn fanylach yma.

I’n helpu i ddeall eich barn am sut y dylem fynd i’r afael â sefyllfa’r gyllideb, atebwch y cwestiynau canlynol.