Neidio i'r cynnwys

Amser i Siarad Gyllideb 2026-2027

Croeso i’n harolwg cyllideb 2026!

Bob blwyddyn mae’n rhaid i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys i ariannu gwasanaethau lleol gan gynnwys addysg ac ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gwasanaethau digartrefedd, priffyrdd a thrafnidiaeth, llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliant a hamdden.

Telir am Wasanaethau’r Cyngor drwy gyfuniad o gyllid gan Lywodraeth Cymru, y Dreth Gyngor a chodi incwm drwy ffioedd a thaliadau. Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae cynnydd o 4.6% yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y byddwn yn gwario £550m ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau ac mae ein bwlch cyllido ar gyfer y flwyddyn i ddod wedi lleihau.

Fodd bynnag, ar ôl dros ddegawd o lymder a galw cynyddol am wasanaethau sy'n uwch na'r twf mewn cyllid, mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod dan bwysau, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i arbedion a chynyddu taliadau ar gyfer rhai gwasanaethau.   Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 yn cael ei hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 13 Ionawr 2026. Wrth gydbwyso'r gyllideb ddrafft, cynigir ariannu pwysau ariannol o £9.2m a gwneud arbedion cost o £2.4m. Y Dreth Gyngor arfaethedig ar gyfer 2026/27 yw 4.95%. 

Mae ein cynigion arbed yn blaenoriaethu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, yn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen cyhyd â phosibl, ac yn sicrhau cyllid teg ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol.   Mae hyn yn cynnwys cynnydd net mewn cyllid i ysgolion, gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion – ni fydd unrhyw dargedau arbed ar gyfer ein hysgolion.

Mae gennym gynlluniau i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i’w gwneud yn fwy cadarn a mwy effeithlon yn y dyfodol, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI) i sbarduno gwelliannau.

Mae’r arolwg canlynol yn gofyn am eich adborth chi am ein cynigion ac oherwydd cynnydd hwyr yn ein cyllid mae gennym rywfaint o arian heb ei ddyrannu ar gael ac yn croesawu eich barn ar ble i flaenoriaethu hyn.

Diolch am gymryd yr amser i rannu eich barn a’n helpu i lunio dyfodol gwasanaethau yn ein cymuned.

0% Ateb

Hysbysiad GDPR

Caiff yr holl wybodaeth a dderbynnir ei storio gan ddefnyddio gweinyddion diogel ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (1998). Wrth gasglu data, mae gennym bolisi ar waith i gymryd yr holl gamau priodol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu'n gyfreithiol. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n allanol.

Bydd y cyngor yn cymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau cyfrinachedd ac i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â Pholisi Cadw Data'r Cyngor.

Mae gennych nifer o hawliau dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Cewch hefyd dynnu eich caniatâd yn ôl a gofyn inni ddileu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn ar gael ar ein gwefan, neu gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data.

Os ydych yn anfodlon gyda'r modd yr ydym yn prosesu eich data personol, cewch gyflwyno cwyn i'r Swyddog Diogelu Data a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.