Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Ymgynghoriad - Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Safonau Parcio
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft ar gyfer Safonau Parcio wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn wedi'u paratoi i ddisodli’r CCA17: Safonau Parci presennol, a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 21 Medi 2011.
Mae'r CCA drafft hwn yn cadw at ddull seiliedig ar barthau o ran safonau parcio, sy'n adlewyrchu lefelau gwahanol o hygyrchedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Adolygwyd y safonau i sicrhau eu bod yn darparu sail briodol a chymesur ar gyfer asesu'r galw am barcio, cyfleoedd teithio cynaliadwy a'r effeithiau posibl a gaiff datblygiadau ar rwydwaith y priffyrdd o fewn cyd-destun Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r CCA drafft yn darparu safonau a chanllawiau diweddaredig ar gyfer datblygiadau preswyl ac amhreswyl, gwefru cerbydau trydan, parcio ar gyfer pobl anabl a pharcio hygyrch, parcio beiciau a cherbydau dwy olwyn modur. Mae hefyd yn darparu canllawiau mwy manwl ar gynllun a dyluniad mannau parcio, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, a gofynion gweithredol a gwasanaethu.
Bydd y safonau parcio yn ehangu ar y polisïau parcio a nodir yn yr CDLlN a fabwysiadwyd ac yn cynorthwyo i’w gweithredu.
Gellir gweld y dogfennau ymgynghori ar ochr dde eich sgrin.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29/10/2026 a 10/12/2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol ar 01656 643168 neu LDP@Bridgend.gov.uk.
Os byddai'n well gennych ymateb yn ysgrifenedig, cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gynrychiolaeth.