Ymgynghoriad - Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Bioamrywiaeth

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft ar gyfer Bioamrywiaeth wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yw cefnogi a darparu cyfeiriad pellach ar weithrediad polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fabwysiadwyd (Mawrth 2024), sy'n ymwneud â diogelu a gwella cynefinoedd a'r amgylchedd sy'n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu.

Mae'n amlinellu sut y dylai cynigion datblygu warchod, cynnal a gwella bioamrywiaeth, a sicrhau Budd Net i Fioamrywiaeth (BNB) yn unol â gofynion yr CDLlN a pholisi cynllunio cenedlaethol. Ei bwrpas yw egluro sut y dylai ymgeiswyr, datblygwyr, a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddehongli a gweithredu gofynion y polisïau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth drwy gydol y broses o gynllunio, dylunio, asesu a darparu cynigion datblygu.

Pan gânt eu mabwysiadu, bydd y CCA hyn yn dod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu cydsyniadau.

Mae'r CCA hyn yn cynnig arweiniad penodol ar:

  • Weithredu gofynion bioamrywiaeth y CDLlN ar gynigion datblygu;
  • Gweithredu'r dull cam wrth gam (hierarchaeth lliniaru) i osgoi, lleihau i'r eithaf, adfer ac, lle bo angen, gweithredu mesurau i ddigolledu am effeithiau anochel ar fioamrywiaeth;
  • Diogelu, cynnal a gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau, a rhwydweithiau ecolegol;
  • Darparu Budd Net i Fioamrywiaeth trwy ddylunio da a seilwaith gwyrdd (SG) amlswyddogaethol;
  • Gweithredu fframwaith DECCA (Amrywiaeth, Maint, Cyflwr, Cysylltedd a Hyblygrwydd gwydnwch ecosystem) i helpu i greu ecosystemau mwy gwydn a mwy cysylltiedig sy’n addasu i’r hinsawdd;
  • Paratoi a chyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ecolegol sy’n ofynnol i gefnogi ceisiadau cynllunio ac i ddangos cydymffurfiaeth â pholisi.

Gellir gweld y dogfennau ymgynghori ar ochr dde eich sgrin.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29/10/2026 a 10/12/2026.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol ar 01656 643168 neu LDP@Bridgend.gov.uk.

Os byddai'n well gennych ymateb yn ysgrifenedig, cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gynrychiolaeth.

Diweddaru: 29 Hyd 2026, 05:05 PM