Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Ymgynghoriad - Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Bioamrywiaeth
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft ar gyfer Bioamrywiaeth wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yw cefnogi a darparu cyfeiriad pellach ar weithrediad polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fabwysiadwyd (Mawrth 2024), sy'n ymwneud â diogelu a gwella cynefinoedd a'r amgylchedd sy'n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu.
Mae'n amlinellu sut y dylai cynigion datblygu warchod, cynnal a gwella bioamrywiaeth, a sicrhau Budd Net i Fioamrywiaeth (BNB) yn unol â gofynion yr CDLlN a pholisi cynllunio cenedlaethol. Ei bwrpas yw egluro sut y dylai ymgeiswyr, datblygwyr, a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddehongli a gweithredu gofynion y polisïau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth drwy gydol y broses o gynllunio, dylunio, asesu a darparu cynigion datblygu.
Pan gânt eu mabwysiadu, bydd y CCA hyn yn dod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu cydsyniadau.
Mae'r CCA hyn yn cynnig arweiniad penodol ar:
Weithredu gofynion bioamrywiaeth y CDLlN ar gynigion datblygu;
Gweithredu'r dull cam wrth gam (hierarchaeth lliniaru) i osgoi, lleihau i'r eithaf, adfer ac, lle bo angen, gweithredu mesurau i ddigolledu am effeithiau anochel ar fioamrywiaeth;
Diogelu, cynnal a gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau, a rhwydweithiau ecolegol;
Darparu Budd Net i Fioamrywiaeth trwy ddylunio da a seilwaith gwyrdd (SG) amlswyddogaethol;
Gweithredu fframwaith DECCA (Amrywiaeth, Maint, Cyflwr, Cysylltedd a Hyblygrwydd gwydnwch ecosystem) i helpu i greu ecosystemau mwy gwydn a mwy cysylltiedig sy’n addasu i’r hinsawdd;
Paratoi a chyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ecolegol sy’n ofynnol i gefnogi ceisiadau cynllunio ac i ddangos cydymffurfiaeth â pholisi.
Gellir gweld y dogfennau ymgynghori ar ochr dde eich sgrin.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29/10/2026 a 10/12/2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol ar 01656 643168 neu LDP@Bridgend.gov.uk.
Os byddai'n well gennych ymateb yn ysgrifenedig, cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gynrychiolaeth.