Eich Llais – Addysg a Dysgu

Mae arnom eisiau rhoi gwybod i chi pam yr ydym yn cynnal yr arolwg!

Yn y bleidlais Gwnewch eich Marc yn 2024, fe ddywedoch chi mai Iechyd a Lles ac Addysg a Dysgu oedd y ddau bwnc pwysicaf i chi.

Ers hydref 2024,mae pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cynnig mewnbwn ar eu hanghenion Iechyd a Lles. Rydym wedi gwrando ar yr hyn oedd gennych chi i’w ddweud! Gallwch weld y camau gweithredu rydyn ni wedi'u cymryd yma.

Y tymor hwn, rydym yn gofyn am fewnbwn llais yr ifanc ar anghenion Addysg a Dysgu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym wedi cydweithredu gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi creu arolwg i ddarganfod sut y gallwn siapio ein Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid ymhellach i gwrdd â’ch anghenion.

Arolwg gwirfoddol, anhysbys yw hwn. Byddwn yn defnyddio'r data o'r arolwg i lywio gwasanaethau a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein tudalen we Eich Llais.

Mae pob defnydd o ddata yn ddienw. Gallwch roi’r gorau i’r arolwg ar unrhyw adeg.

Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda chwestiynau: youthsupport@bridgend.gov.uk

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

Diweddaru: 08 Jan 2026, 03:45 PM