Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau sylweddol wedi bod o ran sut mae pobl yn defnyddio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu siapio gan nifer o ffactorau, gan gynnwys symud siopau mawr i barciau manwerthu y tu allan i’r dref, twf siopa ar-lein, cynnydd gwasanaethau o bell megis bancio ar-lein, a’r newid i weithio o gartref, a heriau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd.
I fynd i'r afael â’r heriau esblygol hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio eich adborth ynghylch ystod o welliannau posibl i wella mynediad i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Crynhoir y newidiadau arfaethedig fel a ganlyn:
Ymestyn oriau llwytho a dadlwytho ar draws ardaloedd i gerddwyr yn unig yng nghanol y dref i gefnogi busnesau a’u cwsmeriaid yn well.
Caniatáu beicio mewn ardaloedd i gerddwyr yn unig gyda darpariaeth o well cyfleusterau parcio ar gyfer beiciau.
Cynyddu lleoedd parcio anabl drwy drosi ardaloedd nad ydynt yn cael defnydd digonol ar Ffordd Derwen.
Mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn rhan o gam cychwynnol sydd â'r bwriad o wella hyfywedd a gwytnwch canol y dref. Byddwn yn monitro’r effaith yn agos ac efallai y byddwn yn ystyried newidiadau pellach yn ddiweddarach.
Rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid yn ffafrio caniatáu pob traffig gael defnyddio Stryd y Frenhines, Dunraven Place, a Stryd y Farchnad. Er nad yw hyn wedi’i gynnwys yn y cynnig presennol, rydym yn croesawu pob barn trwy’r gymhorthfa, a bydd eich adborth yn ffurfio rhan bwysig o'n dadansoddiad ymgysylltu. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a oes angen ymchwiliad pellach ar gyfer cam dilynol posibl.
Gallwch ddewis ateb pob adran o'r holiadur hwn neu ganolbwyntio ar y meysydd sydd bwysicaf i chi. Yn dibynnu ar ba adrannau rydych chi'n dewis eu hateb, bydd yr arolwg yn cymryd rhwng oddeutu 3 a 10 munud i'w gwblhau.
Mae eich adborth yn yr arolwg hwn yn hynod werthfawr i’n helpu i lunio cynllun cytbwys sy’n ddiogel, yn effeithiol ac yn gyflawnadwy.