Neidio i'r cynnwys

Strategaeth Digidol 2025 - 2029

Cyflwyniad

Mae Strategaeth Ddigidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu sut rydym yn bwriadu defnyddio technoleg i ddatblygu datrysiadau digidol sy'n cydnabod ac yn cyd-fynd ag uchelgais Strategaeth Digidol Llywodraeth Cymru a'u Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol; gwella gwasanaethau cyhoeddus, adeiladu llwyfannau digidol, datblygu'r economi a lleihau anghydraddoldebau, trawsnewid sgiliau a phartneriaethau digidol a defnyddio digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Ers 2020, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi cyfres o fentrau digidol ar waith o dan ei strategaeth digidol i wella gwasanaethau a gwella effeithlonrwydd.

Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys: 

  • Gweithredu systemau newydd i gefnogi ceisiadau i’r gofrestr digartref a thai, amserlennu electronig ar gyfer gweithwyr Gofal Cartref, system gwybodaeth r reoli ar gyfer ysgolion a chyflwyno system rheoli achosion well ar gyfer ein tîm Cyfreithiol.   
  • Cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i symleiddio a gwella'r ffordd rydym yn rheoli ein ceisiadau asesu ariannol, gwahanol wasanaethau swyddfa’r Cofrestrydd, a ffurflen Cysylltu â Ni corfforaethol newydd i wella'r ffordd mae trigolion yn cael mynediad at wasanaethau allweddol y cyngor.
  • Gwella ymgysylltiad dinasyddion trwy lansio llwyfannau hunanwasanaeth, cyfathrebu ac ymgysylltu digidol newydd i alluogi cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor ar-lein, yn ogystal â gwella sut rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â dinasyddion. 
  • Uwchraddio seilwaith mewn perthynas â theledu cylch cyfyng, gosod Wi-Fi cyhoeddus yng nghanol y pedair tref, a mabwysiadu technoleg cyfarfodydd hybrid ar gyfer gweithrediadau'r cyngor.
Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon