Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos statudol ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM). Bydd hyn yn digwydd o 13eg Gorffennaf 2026 hyd 5ed Hydref 2026.
Mae teithio iach yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, symud ar olwynion a beicio ar gyfer siwrneiau pwrpasol i gyrchfan, neu mewn cyfuniad gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Gellir mynd ar siwrneiau o’r fath er mwyn teithio i’r gwaith, i’r ysgol neu gyfleusterau addysgol eraill, siopa, cyfleusterau hamdden, trafnidiaeth gyhoeddus ac ati.
Rydym eisiau darparu Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr gyda rhwydwaith teithio llesol sy’n galluogi i gerdded, symud ar olwynion a beicio fod yn hawdd ac yn hygyrch i bawb. Drwy wneud hyn, rydym yn hyrwyddo iechyd a lles pawb ac yn gwella cysylltedd yn ein trefi a’n pentrefi.
Cafodd yr ATNM presennol ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022 a gellir cyrchu’r fersiwn ddiweddaraf drwy ddilyn y ddolen hon: Diweddariad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2026 . Mae hi nawr yn amser i adfyfyrio ar hyn ac ystyried gwelliannau i’r rhwydwaith unwaith eto.
Unwaith rydych wedi dilyn y ddolen uchod, gellir gwneud y map yn fwy drwy glicio ar y botwm gwyrdd “Arddangos yn Syllwr y Map”. Bydd arddangosiad mwy o’r map yn agor fel bod modd ei drin yn haws. Mae arddangosiad ar ochr chwith y sgrin yn egluro ystyr yr holl liwiau a symbolau a ddangosir ar y map.
Mae’r Cyngor yn croesawu adborth y gellir ei ddarparu drwy glicio ar ddolen yr arolwg isod.
Arolwg Map Rhwydwaith Teithio Iach - Ffyrdd Eraill o Gyfranogi
Gellir casglu copïau papur o’r arolwg hefyd a’u dychwelyd mewn person o’r Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.
Pe baech yn dymuno darparu adborth mewn fformat arall, dylech gyflwyno eich cais i activetravel@bridgend.gov.uk
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal tair sesiwn alw-heibio mewn lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi cyfle i'r cyhoedd weld y Map Rhwydwaith Teithio Actif (ATNM) cyfredol a rhoi adborth.
- Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr: 25 Awst 2026, 4.30yp - 7.30yp
- YMCA Porthcawl: 26 Awst 2026, 4.30yp - 7.30yp
- Canolfan Chwaraeon Maesteg: 2 Medi 2026, 4.30yp - 7.30yp
Os ydych chi'n bwriadu mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau uchod, ac angen iddynt gael eu cynnal yn Gymraeg, rhowch wybod i ni gydag amser digonol o rybudd yn activetravel@bridgend.gov.uk fel y gellir trefnu cyfieithu i'r Gymraeg.