Ymgynghoriad Perchnogion Eiddo Gwag

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mwy dros 1800 o dai gwag, ac o'r rhain mae 650 wedi bod yn wag am o leiaf ddeuddeg mis. Yn y cyfamser, ac ar yr un pryd, roedd dros 2,500 o geisiadau ar ein cofrestr tai. Mewn ymgais i fynd i'r afael â'r nifer o eiddo gwag o fewn ein bwrdeistref, mae'r Cyngor yn chwilio am farn eraill er mwyn helpu i fod yn sail i adnewyddu'r Strategaeth Eiddo Gwag 2024-2029.

Bydd y strategaeth yn sail i ddull y cyngor o flaenoriaethu a dod ag eiddo gwag yn ôl i fod yn cael eu defnyddio, tra hefyd bod yn gallu helpu cyfrannu tuag at gynyddu argaeledd tai ar werth neu i'w rhentu.

Rydym yn gwahodd yr holl randdeiliaid, gan gynnwys perchnogion eiddo gwag, preswylwyr a busnesau lleol i gyfranogi yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym am glywed eich barn ynghylch sut allwn ni weithio orau gyda pherchnogion cartrefi gwag i ddod â'u tai yn ôl i gael eu defnyddio.

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn hynod o werthfawr wrth i ni ddatblygu strategaeth sy'n cwrdd ag anghenion a dyheadau preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Dylech gyflwyno eich ymatebion erbyn dydd Gwener 30ed Awst 2024 os gwelwch yn dda.

Diweddaru: 28 Meh 2024, 03:27 PM