Ymgynghoriad terfyn cyflymder 20mya

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Ymgynghoriad ar eithriadau arfaethedig i derfyn cyflymder diofyn o 20mya yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cymeradwywyd deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru i ostwng terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya ar fyrdd cynyngedig.

Daw’r terfyn cyflymder diofyn newydd ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl lle ceir system o oleuadau stryd i rym ar 17 Medi 2023. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd gan unrhyw ffordd gyfyngedig derfyn cyflymder 20mya oni bai bod yr awdurdod priffyrdd yn pennu terfyn cyflymder gwahanol drwy Orchymyn.

Mae amcanion Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 fel a ganlyn:

  • Lleihau nifer yr anafiadau ar y rhwydwaith ffyrdd.
  • Amgylchedd gwell a mwy diogel sy’n annog mwy o bobl i feicio a cherdded ynghyd â llai o lygredd sŵn.
  • Lleihau cyflymder cerbydau yn ein cymunedau.

Mae’r rhannau o’r ffyrdd wedi’u hamlygu yn y cynlluniau sydd wedi’u hatodi yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder o 30mya. Pan aseswyd y rhain yn erbyn meini prawf eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, ystyrir eu bod yn bodloni'r meini prawf, a chynigir eu bod yn aros ar 30mya drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.

O dan ddeddfwriaeth a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r terfynau cyflymder ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, mae’r awdurdod priffyrdd yn cadw’r pŵer i ddweud na fydd ffordd a oedd yn ffordd gyfyngedig cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei llunio, yn ffordd sy’n ddarostyngedig i'r terfyn cyflymder diofyn.

Yn ymgynghori yn unol ag adrannau 82 ac 84 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996, Cyngor Bwydeistef Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd trigolion I gynnig eu barn am gadw’r cyfyngiad cyflymder o 30mya ar y ffyrdd o amlygwyd yn y cynlluniau sydd ynghlwm

Os bydd gennych unrhyw sylwadau ar y cynigion 30mya yr hoffech iddynt gael eu hystyried, bydd angen cyflwyno’r rhain i ni yn ystod y cyfnod ymgynghori, a fydd ar agor am gyfnod o 3 wythnos yn dechrau ar Dydd Llun y 3ydd o Ebrill ac yn cau ar Dydd Llun Ebrill 24ain 2023.