Amser i Siarad Cyllideb
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y sefyllfa bresennol
Ar draws y DU, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau ariannol enfawr o ganlyniad i doriadau mewn cyllid a digwyddiadau’n amrywio o bandemig Covid-19 i’r Argyfwng Costau Byw presennol.
Mae pob gwasanaeth cyngor yn awr yn costio mwy i’w ddarparu i breswylwyr - nid dim ond prosiectau mawr megis adeiladu ysgolion newydd, ond pethau fel biliau ynni ar gyfer canolfannau dydd a chartrefi gofal, cynnal y rhwydwaith priffyrdd, neu helpu pobl sy’n ddigartref.
Oherwydd y cynnydd yn y galw, rydym hefyd wedi gweld gorwario ar gyllidebau mewn meysydd pwysig megis gwasanaethauParhau i ddarllen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Y sefyllfa bresennol
Ar draws y DU, mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau ariannol enfawr o ganlyniad i doriadau mewn cyllid a digwyddiadau’n amrywio o bandemig Covid-19 i’r Argyfwng Costau Byw presennol.
Mae pob gwasanaeth cyngor yn awr yn costio mwy i’w ddarparu i breswylwyr - nid dim ond prosiectau mawr megis adeiladu ysgolion newydd, ond pethau fel biliau ynni ar gyfer canolfannau dydd a chartrefi gofal, cynnal y rhwydwaith priffyrdd, neu helpu pobl sy’n ddigartref.
Oherwydd y cynnydd yn y galw, rydym hefyd wedi gweld gorwario ar gyllidebau mewn meysydd pwysig megis gwasanaethau cymdeithasol a chludiant o’r cartref i’r ysgol.
Ariannu’r Cyngor
Mae’r arian rydym ni’n ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau yn dod yn bennaf o setliad cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru yn ogystal â threth gyngor ac incwm a gynhyrchir drwy ffïoedd a thaliadau.
Ar gyfer 2025-2-26, bydd y cyngor yn debygol o dderbyn cynnydd o 4 y cant yn setliad y gyllideb ar gyfer 2025-26. Yn anffodus, ni fydd hyn yn ddigon i ysgwyddo costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau.
Er mwyn gosod cyllideb cwbl hafal sy’n ofynnol gan y gyfraith, credwn y bydd angen dod o hyd i arbedion o £9.1 miliwn yn 2025-26.
Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy wneud rhai penderfyniadau anodd iawn am y gwasanaethau cyngor rydym yn eu darparu a’u blaenoriaethu ar hyn o bryd. Byddwn hefyd angen ystyried sut y gallwn ni gwrdd â’r heriau y gallem eu hwynebu yn y dyfodol.
Egwyddorion ein cyllideb
Wrth ddatblygu’r gyllideb ar gyfer 2025-26, byddwn yn:
- Ceisio diogelu ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
- Annog preswylwyr a chymunedau i gefnogi eu hunain, a darparu cyngor er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.
- Ceisio cyfyngu ar dwf gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
- Ei gwneud yn ofynnol i bob cyfarwyddiaeth gyfrannu at arbedion cyffredinol sy’n ofynnol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
- Cynnal gwasanaeth cefn swyddfa effeithlon er mwyn cefnogi darparu gwasanaeth a thrawsnewid.
- Bod yn ystyriol o’r cyni ariannol sy’n cael ei ragweld yn y sector cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, a chynllunio i sicrhau hyfywedd ariannol y cyngor.
- Ceisio adfer cost gwasanaethau drwy ffïoedd a thaliadau lle mae’n bosib gwneud hynny.
Yn ogystal, er mwyn ein helpu ni i barhau i flaenoriaethu’r bobl fwyaf bregus, rydym am i’r gyllideb hon amddiffyn ein buddsoddiadau presennol mewn addysg, gwasanaethau ymyrryd cynnar, a gwasanaethau cymdeithasol a lles.
Dweud eich dweud
Bwriedir i’r ymgynghoriad hwn sicrhau y gallwch gael dweud eich dweud yn y broses o osod cyllideb. Mae’n adeiladu ar ganlyniadau proses y llynedd, pryd y dywedoch wrthym y dylem fod yn ceisio cyflwyno taliadau neu eu cynyddu os oeddent eisoes yn bodoli, gan leihau costau staffio ac adolygu pa lefelau o wasanaeth oedd modd eu darparu.
Er mwyn gwneud yn fawr o arbedion effeithlonrwydd, fe ddywedoch wrthym ni hefyd i adolygu’r defnydd a wneir o’n hadeiladau a’n hasedau, ac i ystyried y trefniadau gwasanaeth sydd gennym mewn lle gyda sefydliadau partneriaethol.
Rydym wedi gweithredu ac wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’r cyfan o’r uchod, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni edrych ymlaen tuag at 2025-26.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi’n ofalus a’u hystyried, a byddwn yn ceisio adlewyrchu barn cymaint o bobl â phosib yn y cynigion cyllideb terfynol - diolch i chi am gymryd rhan.
-